2016 Rhif 87 (Cy. 41)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.

Mae rheoliad 4 yn dileu’r gofyniad i dystysgrif gofrestru gynnwys enw’r person â chyfrifoldeb, pan fo un wedi ei benodi.

Mae rheoliad 8 yn dileu gofynion sy’n ymwneud â darpariaeth chwarae mynediad agored.

Mae rheoliadau 5 a 9 i 12 yn diwygio o ganlyniad i Reoliad Gorchymyn Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016 (sy’n estyn gofyniad y rheoliad i bobl sydd wedi cofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 i ofalu am blant neu ddarparu gofal i blant o dan ddeuddeng mlwydd oed). Mae diwygiadau hefyd yn cael eu gwneud i ddileu’r gofyniad i geisydd gyflwyno cais i Weinidogion Cymru am dystysgrif cofnod troseddol fanylach ac i Weinidogion Cymru gydlofnodi’r cais hwnnw.

Mae rheoliad 9 a 10 hefyd yn ailddatgan paragraff 13(1) a 37(1) o Atodlen 1 gyda newidiadau er mwyn ei gwneud yn glir pa bersonau sydd rhaid iddynt fod yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i fod mewn cysylltiad â phlant.

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2016.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


 

2016 Rhif 87 (Cy. 41)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed                                  27 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       29 Ionawr 2016

Yn dod i rym                             1 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 24(2) a (3), 25, 26(2) a (3), 27, 28(3), 30, a 74(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010([1]).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1)Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2016.

(3) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010

2. Mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010([2]) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 12.

3. Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

“mae i “mangre” (“premises”) yr ystyr a roddir yn adran 71 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;”.

4. Yn rheoliad 5 (tystysgrif gofrestru), hepgorer is-baragraff (ch).

5. Yn rheoliad 6 (y person cofrestredig: ei addasrwydd), ym mharagraff (1), yn lle “o dan wyth oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”.

6. Yn rheoliad 20 (diogelu a hyrwyddo lles)—

(a)     ym mharagraff (2) yn lle “yn addas i gael cyswllt o’r fath” rhodder “yn addas i gael cyswllt â phlant”; a

(b)     ym mharagraff (4), ar ddechrau is-baragraff (a) mewnosoder “pan fo’n briodol,”.

7. Yn rheoliad 28 (addasrwydd gweithwyr), ym mharagraff (6)(c), yn lle “y person” yn yr ail le y mae’n ymddangos rhodder “ef”.

8. Yn rheoliad 37 (addasrwydd y fangre)—

(a)     ym mharagraff (2) yn lle “Rhaid i’r person cofrestredig” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i’r person cofrestredig”;

(b)     ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i berson cofrestredig sy’n darparu gofal dydd drwy ddarpariaeth chwarae mynediad agored..

9. Yn Atodlen 1, Rhan 1 (y gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru: gwarchod plant)—

(a)     ym mharagraffau 2, 4, a 5 (gofynion mewn perthynas â’r ceisydd), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;

(b)     yn lle paragraff 6 rhodder—

6. Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach.;

(c)     ym mharagraffau 8, 9, a 10 (gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: staff), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”; a

(d)     yn lle paragraff 13(1) (gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: pob person arall), rhodder—

13.—(1) Bod pob person (ac eithrio’r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 8) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac—

(a)   yn byw yn y fangre berthnasol,

(b)  yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu

(c)   yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu’n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol,

yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i gael cyswllt â phlant..

10. Yn Atodlen 1, Rhan 2 (y gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru: darparwyr gofal dydd)—

(a)     ym mharagraffau 15, 17 a 18 (gofynion mewn perthynas â’r ceisydd: unigolyn), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;

(b)     yn lle paragraff 19 rhodder—

19. Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach.;

(c)     ym mharagraffau 21(a), 21(b), 22 a 23 (gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol pan fo’r ceisydd yn sefydliad), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;

(d)     yn lle paragraff 24 rhodder—

24. Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol.;

(e)     ym mharagraffau 27, 28 a 29 (gofynion mewn perthynas â’r person â chyfrifoldeb), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;

(f)      yn lle paragraff 30 rhodder—

30. Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â’r person â chyfrifoldeb.;

(g)     ym mharagraffau 32, 33 a 34 yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”; ac

(h)     yn lle paragraff 37(1) (gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: pob person arall), rhodder—

37.—(1) Bod pob person (ac eithrio’r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 21, 26 neu 32) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac—

(a)   yn byw yn y fangre berthnasol,

(b)  yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu

(c)   yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu’n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol,

yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i gael cyswllt â phlant..

11. Yn Atodlen 2, Rhan 1 (gwybodaeth a dogfennau sy’n ofynnol ar gyfer cofrestru: gwarchodwr plant)—

(a)     ym mharagraffau 2(3) a 5(b) (gwybodaeth a dogfennau sy’n ofynnol ar gyfer cofrestru: gwarchodwr plant), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;

(b)     ym mharagraff 11(e)(iii) (gwybodaeth am bersonau eraill: staff), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”; ac

(c)     ym mharagraffau 17 a 20(1) (y dogfennau sydd i’w cyflenwi), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”.

12. Yn Atodlen 2, Rhan 2 (gwybodaeth a dogfennau sy’n ofynnol ar gyfer cofrestru: darparydd gofal dydd)—

(a)     ym mharagraffau 22(3) a 22(5)(ch)(ii) (gwybodaeth am y ceisydd: unigolyn), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;

(b)     ym mharagraffau 24(3)(a), 24(3)(b) a 24(4)(ch)(ii) (gwybodaeth am yr unigolyn cyfrifol pan fo’r ceisydd yn sefydliad), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;

(c)     ym mharagraffau 25(3) a 25(4)(ch)(ii) (gwybodaeth am y person â chyfrifoldeb), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;

(d)     ym mharagraff 34(e)(iii) (gwybodaeth am bersonau eraill: staff), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”; ac

(e)     ym mharagraffau 40 a 46(1) (y dogfennau sydd i’w cyflenwi), yn lle “o dan wyth mlwydd oed”, ym mhob lle y mae’r geiriau’n digwydd, rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”.

 

 

 

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

 

27 Ionawr 2016

 



([1])   2010 mccc 1.

([2])   O.S. 2010/2574 (Cy. 214).